Geirfâu'r Fflyd, 1632-1633

ebook Casgliad John Jones, Gellilyfdy o eiriau'r cartref, crefftau, amaeth a byd natur

By Ann Parry Owen

cover image of Geirfâu'r Fflyd, 1632-1633

Sign up to save your library

With an OverDrive account, you can save your favorite libraries for at-a-glance information about availability. Find out more about OverDrive accounts.

   Not today
Libby_app_icon.svg

Find this title in Libby, the library reading app by OverDrive.

app-store-button-en.svg play-store-badge-en.svg
LibbyDevices.png

Search for a digital library with this title

Title found at these libraries:

Loading...

Mae John Jones, Gellilyfdy, sir y Fflint (c.1580–1658) yn enwog fel ysgrifydd medrus a dibynadwy a gopïodd nifer helaeth o destunau canoloesol, mewn llaw galigraffig hardd. Mae ei gopïau o farddoniaeth a rhyddiaith ganoloesol yn arbennig o werthfawr i'r ysgolhaig Cymraeg, gan nad yw ei ffynonellau'n aml wedi goroesi. Ond nid copïwr yn unig oedd John Jones. Pan oedd yng ngharchar y Fflyd yn Llundain yn ystod y 1630au cynnar, cynhyrchodd restrau o dros 7,000 o eiriau wedi eu trefnu'n thematig dan 130 o benawdau, gan eu cofnodi'n daclus mewn tair llawysgrif. Mae'r geirfâu hyn, a gyhoeddir yma am y tro cyntaf, yn cynnwys geiriau am sawl agwedd ar fywyd bob dydd: y tŷ a'i gynnwys; crefftwyr traddodiadol a'u hoffer; dyn, ei gorff a'i afiechydon, a'r gemau a'r chwaraeon a'i difyrrai; a byd natur, gan gynnwys rhestrau maith o enwau coed, llysiau, pysgod ac adar. Rhydd y geirfâu gipolwg gwerthfawr i ni ar fywyd ac iaith gŵr bonheddig o sir y Fflint ar ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg, yn ogystal ag ychwanegu'n fawr at eirfa Gymraeg hysbys y cyfnod.

Geirfâu'r Fflyd, 1632-1633